Mae'r tîm ymchwil yn cefnogi gwaith yr Ymchwiliad trwy:
Mae safleoedd llenyddiaeth ac ymchwil Cymru wedi goleuo ar draws ystod ein cynllun ymchwil;
Darllen rhai o'n hadroddiadau ymchwil a gyhoeddwyd yn flaenorol (Yn Saesneg)
Defnyddir yr adroddiadau hyn gan y Cadeirydd a'r Panel i helpu goleuo canfyddiadau a llunio argymhellion i amddiffyn plant yn well yn y dyfodol.
Yn dilyn trafodaethau gydag aelodau’r Fforwm Dioddefwyr a Goroeswyr, mae adroddiadau cryno wedi’u cyhoeddi i rannu’r hyn a glywsom ac i arddangos effeithiau cam-drin plant yn rhywiol.
Mae'r Ymchwiliad wedi canfod y gall rhai dioddefwyr a goroeswyr o gymunedau lleiafrifoedd ethnig ei chael yn anodd trafod neu ddatgelu cam-drin plant yn rhywiol. Gofynnwyd i dîm ymgysylltu’r Ymchwiliad archwilio hyn gyda sefydliadau cymorth cymunedol sy’n gweithio gyda chymunedau amrywiol ledled Cymru a Lloegr. Trwy wrando ar dros gant o sefydliadau, mae chwe thema gyffredin wedi dod i'r amlwg.
Mae Panel Ymgynghori Dioddefwyr a Goroeswyr â saith aelod yn cynorthwyo ac yn cynghori’r Ymchwiliad ar bob agwedd ar ei waith. Mae'r panel yn cynnwys saith unigolyn o Gymru a Lloegr; May Baxter-Thornton, Sheila Coates, Lucy Duckworth, Emma Lewis, Fay Maxted, Chris Tuck a Kit Shellam. Mae gan aelodau'r panel gyfoeth o brofiad yn darparu cymorth ac eiriolaeth i ddioddefwyr a goroeswyr cam-drin plant yn rhywiol.