Ar 20 Hydref 2022, cyhoeddodd yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol ei adroddiad statudol terfynol, a gyflwynwyd i’r Senedd yn unol ag adran 26 o Ddeddf Ymchwiliadau 2005. Yn unol â Chylch Gorchwyl yr Ymchwiliad, mae’r Adroddiad yn nodi ei brif ganfyddiadau ynghylch i ba raddau y methodd sefydliadau’r wladwriaeth a rhai anwladwriaethol i gyflawni eu dyletswydd gofal i amddiffyn plant rhag cam-drin rhywiol a chamfanteisio, ac yn cynnig argymhellion ar gyfer diwygio. Mae’r Adroddiad ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg, mewn nifer o fformatau hygyrch.
Mae'r Crynodeb Gweithredol yn darparu cefndir a chyd-destun yr Adroddiad llawn, gan grynhoi gwaith yr Ymchwiliad a'i argymhellion. Mae'r Crynodeb Gweithredol ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg, mewn nifer o fformatau hygyrch.
Mae'r Ymchwiliad wedi cynhyrchu crynodebau eglurhaol byr, mewn iaith syml, ar gyfer pob un o'r 19 adroddiad ymchwiliad, yr Adroddiad Interim ac Adroddiad terfynol statudol yr Ymchwiliad. Mae pob un o'r crynodebau byr yn cynnwys cefndir cyd-destunol, dolenni at y prif Adroddiad, a lle bo'n berthnasol, crynodeb o'r argymhellion.