Mae'r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth allweddol am yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol (IICSA)
Ar y dudalen hon gallwch ganfod gwybodaeth am:
Pwy ydym ni a'n pwrpas
Prosiectau Craidd yr Ymchwiliad
Prosiect Gwirionedd
Mae pob adran yn cynnwys dolenni i wybodaeth fanylach, yn Saesneg yn bennaf.
Sefydlwyd yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol, dan gadeiryddiaeth yr Athro Alexis Jay OBE (yn y llun), ar ôl rhai achosion proffil uchel difrifol o gam-drin plant yn rhywiol yn ddiweddar ac oherwydd bod gan y llywodraeth bryderon difrifol iawn bod rhai sefydliadau'n methu ac yn parhau i fethu ag amddiffyn plant rhag cam-drin rhywiol.
Mae ein gwrandawiadau cyhoeddus bellach wedi dod i ben, ond fel ymchwiliad statudol roedd gennym yr awdurdod unigryw i orfodi tystion a thystiolaeth berthnasol yr oeddem yn teimlo eu bod yn angenrheidiol, er mwyn ymchwilio i ble mae sefydliadau wedi siomi plant yn y gorffennol.
Rhennir yr Ymchwiliad yn dri phrosiect craidd:
Y Prosiect Gwirionedd
Gwrandawiadau cyhoeddus ac ymchwiliadau, mae ein gwrandawiadau cyhoeddus wedi dod i ben ac mae cyfres o adroddiadau'n cael eu cyhoeddi ar hyn o bryd
Mae ein canfyddiadau a'r dystiolaeth a gasglwyd gennym yn goleuo ein hargymhellion i helpu i amddiffyn plant yn well yn y dyfodol.
Diweddarwyd y tudalennau hyn ddiwethaf ar: 20/10/2022.